

Tystiolaeth mewn perthynas â’r dyraniadau cyllidebol a wnaed drwy Brif Grŵp Gwariant Cyfiawnder Cymdeithasol; gan gynnwys tystiolaeth ynglŷn â sut mae cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn ysgogi’r broses o bennu blaenoriaethau a dyrannu’r gyllideb ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.
Cynnwys
Argymhellion blaenorol y Pwyllgor
2. Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
3. Mynd i’r afael â thlodi, costau byw a lleihau anghydraddoldeb
4. Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol
5. Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
6. Cyfiawnder i fenywod a chyfiawnder ieuenctid
7. Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
11. Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o’r dyraniadau a wnaed drwy Gyllideb Ddrafft 2025-26 i Brif Grŵp Gwariant Cyfiawnder Cymdeithasol.
1. Rwyf wedi cymryd camau penderfynol i ddyrannu fy nghyllidebau mewn meysydd a fydd yn ymdrin ag anghydraddoldebau ac yn mynd i’r afael â thlodi er mwyn cefnogi unigolion a theuluoedd sydd â’r angen mwyaf yng Nghymru. Ochr yn ochr â’r £6.8m o gyllid refeniw ychwanegol a dderbyniwyd drwy Gyllideb Ddrafft 2025-26, rwyf hefyd wedi ailbwrpasu £9.2m arall o refeniw yn fy mhortffolio, sy’n ei gwneud yn bosibl imi wneud dyraniadau refeniw gwerth cyfanswm o 16m. Mae dyraniadau wedi cael eu gwneud yn unol â’n hymrwymiadau niferus yn y Rhaglen Lywodraethu sydd â’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a’u lleihau. Mewn cymhariaeth, buddsoddiadau bach yw’r rhain, ond bydd eu heffaith yn bellgyrhaeddol ac yn sylweddol i’r unigolion y mae angen cymorth arnynt fwyaf.
2. Yn ogystal â’r dyraniadau refeniw hyn, dyrannwyd £3m arall o gyfalaf i’m portffolio, sy’n golygu y bydd fy nghyllideb gyfalaf yn cynyddu 20% o gymharu â Chyllideb Derfynol 2024-25 a Ailddatganwyd. Mae swm pellach o £750k wedi cael ei ailbwrpasu yn y Prif Grŵp Gwariant sydd wedi ei gwneud yn bosibl imi gynyddu cyllideb y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol a’r gyllideb Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn sylweddol. Mae swm arall o £1.5m o Gyfalaf Trafodiadau Ariannol hefyd wedi cael ei ddyrannu i’m portffolio a fydd yn rhoi cymorth ychwanegol i Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
3. Mae’r tabl isod yn rhoi gwybodaeth lefel uchel am newidiadau a wnaed i Brif Grŵp Gwariant Cyfiawnder Cymdeithasol drwy Gyllideb Ddrafft 2025-26. Ceir dadansoddiad ar lefel Llinellau Gwariant yn y Gyllideb yn Atodiad A. Mae Atodiad B yn cynnwys esboniadau o newidiadau a wnaed drwy Gyllideb Ddrafft 2025-26 ar lefel Llinellau Gwariant yn y Gyllideb yn ogystal â’r newidiadau a wnaed fel rhan o Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25. Nid oedd newidiadau a wnaed yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 wedi’u cynnwys yn y llinell sylfaen.
4. Bydd addasiadau i linell sylfaen 2025-26 yn cynnwys dyraniadau yn y llinell sylfaen a fydd yn cael eu gwneud yn Ail Gyllideb Atodol 2024-25 i roi cymorth ariannol ychwanegol i ymateb i effeithiau dyfarniad cyflog 2024-25 a’r costau ychwanegol o ganlyniad i’r newidiadau i gyfraddau disgowntio SCAPE sydd wedi effeithio ar gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus heb eu hariannu ers i’r newid gael ei roi ar waith ym mis Ebrill 2024. Mae addasiad i’r llinell sylfaen hefyd wedi cael ei wneud i’r gyllideb ar gyfer Tlodi Tanwydd er mwyn gwneud newid yr oedd ei angen o ganlyniad i ailstrwythuro’r portffolio yn gynharach yn y flwyddyn yn rheolaidd.

5. Mae cyllidebau bron yn arian parod wedi cynyddu £6.3m o ganlyniad i’r Gyllideb Ddrafft hon. Mae hyn yn deillio o ddyrannu £6.8m o gronfeydd wrth gefn yn ogystal â’r trosglwyddiadau i mewn ac allan o’r Prif Grŵp Gwariant i feysydd eraill. Manylir ar y rhain yn Atodiad A a B.
6. Mae cyllidebau nad ydynt yn arian parod wedi cynyddu £0.3m o ganlyniad i ofynion a newidiodd yn ystod y flwyddyn. Unwaith eto, manylir ar y rhain yn Atodiad A a B.
7. Mae cyllidebau cyfalaf wedi cynyddu £3.35m o ganlyniad i’r dyraniad o £3m o gronfeydd wrth gefn yn ogystal â’r trosglwyddiad o £0.35m i mewn i’r Prif Grŵp Gwariant o Brif Grŵp Gwariant Tai a Llywodraeth Leol. Manylir ar y rhain yn Atodiad A a B.
8. Mae cyllidebau cyfalaf Trafodiadau Ariannol wedi cynyddu £1.5m ar ôl dyrannu cyllidebau o gronfeydd wrth gefn; mae newidiadau llai eraill o ganlyniad i ad-daliadau wedi’u proffilio ar y cyfalaf benthyciad hwn. Unwaith eto, manylir ar y rhain yn Atodiad A a B.
Sut mae cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn ysgogi’r broses o bennu blaenoriaethau
9. Mae ein Hasesiad Effaith Integredig Strategol o Gyllideb Ddrafft 2025-26 yn amlinellu’r dystiolaeth a gafodd ei hystyried ac a lywiodd ein penderfyniadau. Mae’r asesiad hwn yn nodi tueddiadau allweddol ac yn adlewyrchu effeithiau strategol a chronnol penderfyniadau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys rhoi ystyriaeth briodol i’r gofynion statudol. Mae hyn wedi helpu i leihau unrhyw effaith anghymesur ar unrhyw grŵp penodol yn ogystal â nodi cyfleoedd i sicrhau’r effeithiau cadarnhaol mwyaf i leihau anghydraddoldebau ym mhob rhan o’n cymdeithas.
10. Cynhaliodd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd adolygiad o’r dystiolaeth ddiweddar (gan gynnwys adroddiad Llesiant Cymru, Arolwg Cenedlaethol Cymru a’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion) er mwyn deall yn well pwy fyddai’n wynebu’r effaith fwyaf o ganlyniad i newidiadau cyllidebol. Archwiliodd nifer o feysydd polisi allweddol, gan gynnwys tlodi a statws economaidd-gymdeithasol, iechyd, addysg, tai, cyflogaeth a’r amgylchedd. Roedd hyn yn golygu canfod lle roedd gan bobl a oedd yn perthyn i grwpiau cydraddoldeb/y rhai â nodweddion gwarchodedig nodweddion croestoriadol lluosog a oedd yn golygu y byddent yn fwy agored i effeithiau negyddol o ganlyniad i doriadau i wasanaethau penodol o’u cymharu â phobl heb nodweddion cydraddoldeb croestoriadol lluosog. Roedd y dystiolaeth hon yn sail i drafodaethau a phenderfyniadau’r Cabinet wrth ystyried dyraniadau cyllidebol a gwneud penderfyniadau am wariant.
11. Mae ystyriaethau o ran cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn rhan annatod o’r blaenoriaethau y mae’r Llywodraeth wedi eu pennu ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon. Cafodd y blaenoriaethau eu llunio drwy’r ymarfer gwrando a gynhaliwyd dros fisoedd yr haf a’u cyhoeddi gan y Prif Weinidog ym mis Medi. Y pedwar maes blaenoriaeth allweddol yw:
· Iechyd da – lleihau amseroedd aros y GIG, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl; gwella mynediad at ofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd menywod.
· Swyddi a thwf gwyrdd – creu swyddi gwyrdd sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac yn adfer natur, a hefyd sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill; cyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru.
· Cyfle i bob teulu – codi safonau mewn ysgolion a cholegau a darparu mwy o dai rhentu cymdeithasol, gan sicrhau bod pob teulu yn cael cyfle i lwyddo.
· Cysylltu cymunedau – trawsnewid ein rheilffyrdd a sicrhau rhwydwaith bysiau gwell; trwsio ein ffyrdd a grymuso cymunedau lleol i wneud dewisiadau ynglŷn ag 20mya.
12. Meysydd polisi sy’n bodoli eisoes yw’r rhain. Mae’r broses gyflawni yn mynd rhagddi yn unol â’r gofynion statudol ac asesu effaith perthnasol.
13. Gofynnodd eich llythyr yn benodol am ddiweddariad mewn perthynas ag argymhellion 2, 4 a 7 o’ch adroddiad ar gyfer 2024-25; nodir y diweddariadau isod.
Asesiad Effaith Integredig Strategol
14. Rydym wedi estyn y cyfnod ymgysylltu i adolygu’r asesiad er mwyn sicrhau ein bod yn cael tystiolaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ac rydym bellach yn rhagweld y daw i ben yn 2025. Yn ogystal â’n trafodaethau sy’n mynd rhagddynt â Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb Llywodraeth Cymru, rydym yn ymgysylltu â Llywodraethau eraill, gan gynnwys Gwlad yr Iâ, Canada, yr Alban a Gogledd Iwerddon i fanteisio ar brofiadau ac arferion gorau o bedwar ban byd. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â grwpiau allweddol megis Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn cyflymu’r broses ymgysylltu hon ac yn gofyn am safbwyntiau ehangach o bob rhan o Gymru cyn trafod argymhellion sy’n codi ag aelodau’r Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb.
Y Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb
15. Rydym wedi parhau i weithio gyda’r grŵp hwn i ddatblygu’r ffordd rydym yn ymgorffori mesurau atal a gwariant ataliol yn y broses gyllidebu ymhellach. Penderfynodd y grŵp sefydlu ffrwd waith bwrpasol i ystyried sut y gallai fod yn berthnasol i fioamrywiaeth a phrofi dulliau gweithredu newydd a allai gael eu defnyddio mewn meysydd polisi eraill maes o law. Mae’r grŵp yn archwilio’n benodol becyn cymorth ar fioamrywiaeth a ddatblygwyd, ac mae’n ystyried y canlyniadau a’r gwersi a ddysgwyd drwy ddefnyddio’r adnodd hwn. Bydd y grŵp yn parhau â’r ffrwd waith hon dros y misoedd nesaf, a gobeithiwn y bydd yn esgor ar argymhellion ynglŷn â sut y gellid cyflwyno dull cyllideb gyfan o ymdrin â gweithgarwch ataliol yn effeithiol. Bydd y broses o ymgorffori’r dull ataliol ymhellach hefyd yn allweddol i’r gwaith sy’n cael ei wneud ar Adolygiad Gwariant Cymru.
Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu
16. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar argymhelliad y Pwyllgor y flwyddyn ddiwethaf, ac mae swyddogion yn gweithio ar adroddiad a fydd yn dwyn ynghyd adolygiad o’r llenyddiaeth gyfredol ynglŷn â swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a rhywfaint o ymchwil sylfaenol lefel uchel ar y cyd â staff plismona rheng flaen. Datblygwyd y dull gweithredu hwn gydag arweinwyr plismona fel y gellir ei gyflwyno mewn partneriaeth.
17. Mae cymryd amser ychwanegol i gwblhau’r gwaith wedi cefnogi’r dull partneriaeth hwn ac wedi rhoi cyfle inni sicrhau bod canlyniadau a chanfyddiadau yn cael eu hystyried yn fanylach. Byddaf yn sicrhau bod y Pwyllgor yn cael cyfle i weld y gwaith, sy’n debygol o fod yn gymharol lefel uchel, cyn gynted ag y bydd wedi’i gwblhau ac yn barod i’w rannu.
Mae £0.3m o refeniw ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i’r Unedau Data fel rhan o Gyllideb Ddrafft 2025-26 i ddiwallu anghenion sy’n dod i’r amlwg o ran tystiolaeth ym meysydd hil, anabledd, rhywedd neu LHDTC+.
Llywio penderfyniadau cyllidebol
18. Rhoddodd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd grynodeb lefel macro o’r dystiolaeth ynglŷn â chydraddoldeb er mwyn nodi pwy fyddai’n wynebu’r effaith fwyaf yn ôl gwariant er mwyn llywio penderfyniadau’r Cabinet. Roedd hyn yn golygu syntheseiddio amrywiaeth o dystiolaeth mewn perthynas â phedair blaenoriaeth allweddol y Prif Weinidog (Cymru iachach; swyddi a thwf gwyrdd; cyfle i bob teulu; a chysylltu cymunedau). Mae pobl sy’n perthyn i grwpiau cydraddoldeb sydd â nodweddion gwarchodedig croestoriadol lluosog yn fwy tebygol o wynebu effeithiau negyddol o ganlyniad i benderfyniadau cyllidebol am feysydd a gwasanaethau polisi penodol o’u cymharu â phobl heb nodweddion o’r fath. Dangosir y dystiolaeth hon yng Nghyd-destun Strategol yr Asesiad Effaith Integredig Strategol o Gyllideb Ddrafft 2025-26.
19. Prif rôl yr Unedau Tystiolaeth yw datblygu’r sylfaen dystiolaeth fel y gall eraill ystyried yr effeithiau ar gydraddoldeb yn eu meysydd polisi a’u negyddu’n fwy effeithiol. Mae’r Unedau Tystiolaeth wedi paratoi sawl darn allweddol o dystiolaeth a ddefnyddir wrth wneud penderfyniadau polisi a phenderfyniadau cyllidebol fel rhan o’r crynodeb lefel macro o’r dystiolaeth. Er enghraifft, y dadansoddiad ar gyfer pennod Llesiant Cymru 2024: Cymru sy’n Fwy Cyfartal, adadansoddiad y Cyfrifiad o wahaniaethau mewn canlyniadau, megis iechyd, addysg a statws economaidd yn ôl nodweddion cydraddoldeb. Bydd y broses o ddatblygu fframweithiau mesur ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Cynllun Gweithredu LHDTC+ a’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn ychwanegu ymhellach at y dystiolaeth sydd ar gael.
20. Drwy’r Gyllideb Ddrafft hon rwyf wedi dyrannu £0.3m ychwanegol i’r gyllideb hon er mwyn sicrhau y gellir cyflawni’r cynllun gwaith cyhoeddedig a galluogi’r Unedau i lenwi bylchau mewn tystiolaeth a diwallu anghenion sy’n dod i’r amlwg o ran tystiolaeth ym meysydd hil, anabledd, rhywedd neu LHDTC+.
21. Y blaenoriaethau allweddol yn 2025-26 ar gyfer yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yw diwallu anghenion sy’n dod i’r amlwg o ran tystiolaeth yn y meysydd canlynol:
· Materion trawsbynciol: er enghraifft, mesur effaith cynlluniau gweithredu cydraddoldeb, datblygu bylchau cyflog cydraddoldeb manwl, opsiynau i hybu Arolwg Cenedlaethol Cymru.
· Anabledd: er enghraifft, rhwystrau i gyflogaeth i bobl anabl, ymgorffori’r model cymdeithasol o anabledd mewn prosesau casglu data.
· Hil: er enghraifft, prosiectau ymchwil i brofiadau bywyd, gan gynnwys un i ddeall anghenion tystiolaeth Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
· Cydraddoldeb: deall anghenion mewn perthynas â chasglu data ar ryw/rhywedd, gan ddatblygu cyngor ac arweiniad ar brif ffrydio’r broses o gasglu data ar gydraddoldebau ym mhob rhan o’r llywodraeth.
Un o flaenoriaethau allweddol fy mhortffolio yw defnyddio’r holl ysgogwyr sydd ar gael i leihau anghydraddoldebau a mynd i’r afael â thlodi drwy gefnogi cynifer o unigolion a theuluoedd â phosibl.
Mynd i’r afael â thlodi
22. Er bod cyfradd y cynnydd mewn prisiau yn gostwng, mae grwpiau incwm is yn debygol o barhau i wynebu anawsterau oherwydd effaith lefelau prisiau uwch ar eu safonau byw. Mae aelwydydd yn y ddau gwintil incwm isaf yn gwario cyfran fwy o’u hincwm ar fwyd, rhent ac ynni ar gyfartaledd. Drwy’r Gyllideb Ddrafft hon, rwyf wedi gwneud nifer o ddyraniadau i fynd i’r afael â thlodi.
23. Mae cyllideb Cynhwysiant Ariannol yn cynnig cymorth uniongyrchol mewn argyfwng i unigolion sy’n wynebu argyfwng ariannol nad oes unrhyw fath arall o gymorth ar gael iddynt. Rwyf wedi dyrannu £1m ychwanegol i’r Gronfa Cymorth Dewisol, sy’n golygu y bydd cyllideb Cynhwysiant Ariannol yn 2025-26 yn cynyddu i ychydig dros £40m. Mae tua 50% o ymgeiswyr i’r Gronfa Cymorth Dewisol bellach yn deuluoedd â phlant ac, felly, mae’n ffordd allweddol o helpu’r plant mwyaf difreintiedig yng Nghymru ochr yn ochr â chymorth ehangach drwy’r portffolio hwn ac mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru. Rwyf hefyd wedi dyrannu £120k arall o refeniw i gyllideb Cynhwysiant Ariannol yn 2025-26 i gefnogi ymchwil i allgáu ariannol yng Nghymru. Bydd mynediad at y dystiolaeth newydd hon ar y rhai mwyaf difreintiedig ac felly’r rhai mwyaf agored i niwed o bosibl mewn cymdeithas yn ei gwneud yn bosibl inni lunio ymyriadau wedi’u targedu’n well.
24. Drwy fy nghyllideb Cefnogi Cymunedau, rwy’n cefnogi’r broses o gydlynu gweithgarwch trawslywodraethol ac yn galluogi cydweithio cadarn ar lefel ranbarthol a lleol i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi. Defnyddir y cyllid hwn i roi cymorth uniongyrchol mewn argyfwng i’r rhai tlotaf yn ein cymunedau ac i helpu i fynd i’r afael â’r ffactorau sy’n achosi tlodi yn yr hirdymor. Mae hyn wedi cynnwys cymorth bwyd mewn argyfwng, cyllid i helpu unigolion gyda chost ynni, a chyllid i gefnogi’r broses o roi’r Strategaeth Tlodi Plant ar waith.
25. Yn y Gyllideb Ddrafft hon, rwyf wedi dyrannu £2.5m arall o refeniw o’r dyraniad £5m ehangach i gyllideb Cefnogi Cymunedau i ariannu Partneriaethau Bwyd Lleol a rhoi rhagor o gymorth i fynd i’r afael â thlodi bwyd, sy’n galluogi prosiectau lleol i helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Bydd hyn yn golygu y bydd y dyraniad cyffredinol i roi cymorth i’r rhai sy’n wynebu tlodi bwyd yng Nghymru ar gyfer 2025-26 bron yn £4.5m (refeniw a chyfalaf). Mae’r cymorth hollbwysig hwn yn helpu sefydliadau bwyd cymunedol i brynu cyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd da a nwyddau hanfodol, gan roi hwb i’w gallu i ddiwallu anghenion eu cwsmeriaid. Mae’r cyllid hefyd yn cefnogi Partneriaethau Bwyd Lleol a sefydliadau cymunedol wrth iddynt gyflawni prosiectau bwyd sy’n gysylltiedig â gwaith y partneriaethau bwyd lleol, gan gynnwys y rhai sy’n helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.
26. Rwyf hefyd wedi dyrannu £0.5m o refeniw o gyllideb Cefnogi Cymunedau i roi cymorth tanwydd mewn argyfwng drwy’r Sefydliad Banc Tanwydd i’r rhai mewn tlodi tanwydd sy’n wynebu risg o gael eu datgysylltu ac sydd â mesurydd rhagdalu neu y mae angen cymorth oddi ar y grid arnynt drwy ein Cronfa Wres. Caiff aelwydydd nad ydynt wedi’u cysylltu â’r cyflenwad nwy gael cymorth i swmpbrynu tanwydd a gellir dosbarthu blancedi wedi’u gwresogi i bobl o dan anfantais y mae angen amgylchedd diogel a chynnes arnynt i ymdopi â’r gaeaf.
27. Caiff £1.5m o’r refeniw ychwanegol ei ddefnyddio i barhau i gefnogi ac ehangu darpariaethau Canolfannau Clyd yn 2025-26, gan gynnig lleoedd diogel a chynnes mewn cymunedau lleol.
28. Mae’r gyllideb ar gyfer urddas mislif hefyd yn targedu’n benodol effeithiau costau cynhyrchion mislif ar y rhai ag incwm isel ac, unwaith eto, mae’r gyllideb hon wedi cael ei diogelu’n llawn yn 2025-26 er mwyn rhoi cymorth i bob ysgol a choleg yng Nghymru yn ogystal â sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael yn eang mewn nifer o leoliadau cymunedol, gan gynnwys banciau bwyd a phantrïau, llyfrgelloedd, canolfannau ieuenctid a hybiau cymunedol.
29. Mae tlodi hefyd yn gysylltiedig â risg gynyddol o drais domestig ac mae cyllideb Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol hefyd wedi cael ei chynyddu, a ddisgrifir ym mhennod 7.
30. Rwyf hefyd wedi dyrannu £1.4m o refeniw ychwanegol i gyllideb Cynhwysiant Digidol yn 2025-26 i adfer y gyllideb i gefnogi gweithgarwch cynhwysiant digidol ledled Cymru ac ariannu’r cam nesaf o gymorth cynhwysiant digidol, ar ôl i raglen Cymunedau Digidol Cymru ddod i ben y flwyddyn nesaf. Y rhai mwyaf difreintiedig a rhannau allweddol o’r boblogaeth sy’n wynebu heriau ychwanegol fydd yn cael budd o gymorth cynhwysiant digidol. Mae ymchwil gan y Comisiynydd Pobl Hŷn ac Arolwg Cenedlaethol Cymru yn nodi bod allgáu digidol yn uwch ymhlith grwpiau penodol sydd eisoes yn wynebu rhwystrau ychwanegol i fywyd pob dydd.
Strategaeth Tlodi Plant
31. Yn ogystal â’r Asesiad Effaith Integredig Strategol a gweithgarwch y Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb, mae craffu ar lefel y Cabinet wedi rhoi sicrwydd bod Tlodi Plant yn dal i fod yn thema drawsbynciol allweddol yn yr holl ystyriaethau a phenderfyniadau cyllidebol. Er enghraifft, ym Mhrif Grŵp Gwariant Cyfiawnder Cymdeithasol drwy’r Gyllideb Ddrafft hon rwyf wedi dyrannu £1m arall o refeniw o’r dyraniad ychwanegol ehangach o £5m i gyllideb Cefnogi Cymunedau er mwyn cefnogi’r gwaith o roi’r Strategaeth Tlodi Plant ar waith a chynyddu’r cyllid sydd ar gael drwy gyllid Grant Tlodi Plant i hwyluso’r ddarpariaeth o wasanaethau mwy arloesol.
Cefnogi aelwydydd gyda phwysau costau byw
32. Mae £1m ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i’r Gronfa Cymorth Dewisol, gan gcynyddu’r gyllideb yn 2025-26 i £39.5m. Mae’r gronfa argyfwng hon yn ffordd hollbwysig o roi cymorth i’r rhai nad oes unrhyw fath arall o gymorth ar gael iddynt. Mae’r gronfa yn rhoi taliadau arian parod mewn argyfwng a mynediad at nwyddau cartref hanfodol er mwyn rhoi cymorth mewn argyfwng uniongyrchol a helpu unigolion i symud i ffordd fwy sefydlog o fyw ar ôl argyfwng. Mae’r gronfa hefyd yn cynnwys mynediad at gymorth gyda thaliadau tanwydd oddi ar y grid – nwy ac olew – sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn. Mae cymorth ariannol i undebau credyd wedi’i gynnwys yn nyraniad cyffredinol cyllideb Cynhwysiant Ariannol a chaiff ei ddefnyddio i wneud y sector yn fwy gwydn a chynyddu’r amrywiaeth o wasanaethau a gynigir.
33. Drwy’r Gronfa Gynghori Sengl, rwyf wedi rhoi fframwaith o wasanaethau gwybodaeth a chyngor ar les cymdeithasol ar waith ledled Cymru ac mae’r rhain yn hygyrch i bobl o’n cymunedau mwyaf difreintiedig a’n cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd 77% o’r bobl a ddefnyddiodd wasanaeth y Gronfa Gynghori Sengl yn dod o un o grwpiau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl hŷn, gofalwyr pobl hŷn a theuluoedd incwm isel â phlant.
Siarter Budd-daliadau Cymru
35. Bydd y gwaith i symleiddio’r ffordd y gweinyddir budd-daliadau Cymru yn ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar y cymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl i’w gael.
36. Bydd map llwybr o Gam Un Symleiddio Budd-daliadau Cymru sy’n amlinellu’r blaenoriaethau a’r allbynnau lefel uchel y disgwylir iddynt gael eu cyflawni erbyn mis Ebrill 2026 yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2025. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau megis darganfod a lledaenu arferion gorau, ymchwil, a chyfathrebu, ac rwyf wedi dyrannu £0.5m o refeniw ychwanegol yn 2025-26 i gefnogi’r gwaith hwn, gan sicrhau y gellir cyflawni’r allbynnau hyn mewn modd amserol.
Mae cyllideb Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol wedi cynyddu £0.7m drwy Gyllideb Ddrafft 2025-26; mae cyllideb Cydlyniant Cymunedol hefyd wedi cynyddu £0.9m[1].
37. Mae cyllideb Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol yn cefnogi’r grwpiau sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn uniongyrchol, ac yn aml, y grwpiau hyn yw’r rhai y mae’r cyd-destun ariannol presennol yn effeithio arnynt fwyaf. Yn 2025-26, mae’r cyllidebau hyn wedi cael eu diogelu’n llawn, gyda chynnydd mewn meysydd allweddol er mwyn cydnabod y pwysau chwyddiannol presennol hyd y gellir. Gwyddom fod pobl sy’n anabl, yn LHDTC+ a/neu sy’n dod o gymunedau ethnig lleiafrifol yn fwy tebygol o brofi troseddau casineb ac, ochr yn ochr â phobl o aelwydydd incwm is, dyma’r unigolion sy’n wynebu’r risg fwyaf o iechyd meddwl gwael ac unigrwydd. Mae cyllidebau LHDTC+ yn cefnogi’r cymunedau hyn yn uniongyrchol ac mae cyllidebau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol hefyd yn cefnogi’n uniongyrchol y gwaith i fynd i’r afael â throseddau casineb.
38. Rwyf wedi dyrannu £450k ychwanegol i gyllideb Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol er mwyn cefnogi ymdrechion i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a’u lleihau a hyrwyddo hawliau dynol. Caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio i dargedu camau gweithredu sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo hawliau dynol, gan adlewyrchu’r cyd-destun heriol a brofir o hyd gan y rhai â nodweddion gwarchodedig sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu a’r sefydliadau yn y trydydd sector sy’n eu cefnogi. Bydd hyn yn helpu sefydliadau i gefnogi’r broses o gyflawni ein cynlluniau trawslywodraethol, gan gynnwys Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Cynllun Gweithredu LHDTC+ a’r cynllun arfaethedig ar hawliau pobl anabl. Mae hyn yn ychwanegol at y gefnogaeth i’n partneriaid sy’n gweithio ar Gydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol yn y trydydd sector drwy roi cynnydd o 3% yn y gyllideb, ochr yn ochr â rhoi £0.2m o refeniw ychwanegol i gefnogi gwaith i ddileu rhwystrau a gwella mynediad at wasanaethau i’r rhai yn y gymuned Fyddar.
39. Bydd mudwyr a cheiswyr noddfa, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn aml yn dod o dan un neu fwy o’r nodweddion gwarchodedig hyn ac felly, maent yn fwy tebygol o gael budd o’n gwaith i ddileu anghydraddoldebau. Mae cyllideb Cymunedau Cydlynus yn helpu i ddangos ein hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus drwy roi cymorth i fudwyr, gan gynnwys pobl o Wcráin. Yn 2025-26, bydd £0.9m o refeniw ychwanegol yn cael ei ddyrannu i gefnogi Gwasanaeth Noddfa Cymru a’r Rhaglen Cydlyniant.
40. Mae cyllideb refeniw hil a Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn canolbwyntio ar nodweddion gwarchodedig hil, gan gynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Bydd y gyllideb hon yn ei gwneud yn bosibl i’r camau gweithredu sy’n weddill yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gael eu cwblhau. Bydd hyn yn cyfrannu’n gadarnhaol at Ddyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau sydd o dan anfantais economaidd ac yn gwella mynediad at hawliau CCUHP i blant, yn enwedig y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Bydd hyn yn cefnogi gwaith i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau tai ar gyfer y grŵp hwn, sef un o’r grwpiau sydd o dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd wedi parhau â’n cefnogaeth i’r gyllideb safleoedd cyfalaf ar lefelau 2024-25.
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
41. Mae’r gyllideb ddrafft yn cefnogi’r gwaith o barhau i roi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith drwy flaenoriaethu adnoddau i fynd i’r afael â hiliaeth systemig drwy ddull gweithredu trawslywodraethol. Mae hyn yn ategu cyllid mewn portffolios i gymryd y camau gweithredu trawslywodraethol a nodir yn y cynllun ar ei newydd wedd a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024.
· Roedd y cyllid yn y Prif Grŵp Gwariant yn cynnwys mentrau megis cefnogaeth i ddatblygu arweinyddiaeth gymunedol a chynyddu cynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol, yn enwedig menywod, mewn penodiadau cyhoeddus a mynediad at weithlu’r gwasanaeth cyhoeddus.
· Mae’r Grŵp Atebolrwydd Allanol yn parhau i gefnogi’r gwaith o roi’r cynllun ar waith, gan gynnig cefnogaeth a her, a manteisio ar arbenigedd a phrofiadau bywyd y grŵp.
Cenedl Noddfa
42. Mae’r dyraniadau yn ei gwneud yn bosibl i weledigaeth Cenedl Noddfa gael ei gwireddu. Mae’r ymrwymiadau wedi’u cynnwys yn y bennod ar Genedl Noddfa yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar ei newydd wedd. Caiff £2.12m ei ddarparu ar gyfer amrywiaeth o ymyriadau penodol, fel y’u hamlinellir isod, yn ogystal â buddsoddiad drwy ymyriadau ehangach prif ffrwd i helpu i integreiddio ceiswyr noddfa.
43. Mae Gwasanaeth Noddfa Cymru yn cynyddu i £0.9m er mwyn sicrhau y gall ceiswyr noddfa gael cyngor a chymorth eiriolaeth ar sail Cymru gyfan. Mae hyn yn cefnogi newidiadau i broses gwasgaru ceiswyr lloches Llywodraeth y DU a’r angen i sicrhau gwasanaeth cyfartal ledled Cymru.
44. Byddaf hefyd yn parhau i ddyrannu £0.7m o gyllid i roi’r Tocyn Croeso ar waith a hwyluso mynediad i’r rhyngrwyd i geiswyr lloches sy’n byw yng Nghymru. Bydd mynediad at hyfforddiant dysgu iaith yn parhau i gael ei hwyluso drwy £0.4m ar gyfer Canolfannau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill.
45. Byddwn yn parhau i roi hyfforddiant i awdurdodau lleol mewn perthynas â’r rhai heb hawl i gyllid cyhoeddus, yn ogystal â rhoi mynediad at loches a chyngor cyfreithiol i’r rhai heb statws mewnfudo ond sydd â rhagolygon realistig y byddant yn ei gael.
46. Byddaf yn parhau i ddyrannu cyllid i gefnogi ffoaduriaid newydd eu cydnabod i ddod o hyd i lety amgen a chofrestru i gael gwasanaethau allweddol yn ystod y cam symud ymlaen. Drwy’r cyllid hwn bydd modd: cynyddu adnoddau gwasanaethau cyngor cyfreithiol ar fudo i’r rhai â’r angen mwyaf; parhau i ddarparu gwefan Cenedl Noddfa a’i diweddaru; cymorth o ran cyflogadwyedd ffoaduriaid; a rhoi’r rhai â phrofiad bywyd wrth wraidd ein prosesau llunio polisïau a gwneud penderfyniadau.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod
48. Mae fy nghyllidebau yn parhau i ganolbwyntio ar sut y gallwn sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu parchu, eu diogelu a’u cyflawni fel bod pawb yng Nghymru yn gallu byw ag urddas, rhyddid, diogelwch, a heb wahaniaethu. Mae hyn yn cynnwys y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd i ymgorffori Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod yng nghyfraith Cymru. Fel yr hamlinellwyd yn y llythyr i’r pwyllgor ar 8 Tachwedd, mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol annibynnol a sefydlwyd ym mis Medi 2022 i gynghori Llywodraeth Cymru ar y camau nesaf i fwrw ymlaen ag argymhellion 1 a 25, hynny yw, ymgorffori cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru.
49. Mae’r gweithgor wedi nodi bod angen canolbwyntio’n ehangach ar argymhellion dichonadwy i hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru. Mae hyn yn waith cymhleth a manwl, ac rwyf wrthi’n ystyried i ba raddau y bydd angen cyllid i gefnogi’r gwaith hwn wrth iddo ddatblygu.
Cydraddoldeb Pobl Anabl
51. Byddaf yn parhau i gyllido Anabledd Cymru i ymgorffori’r Model Cymdeithasol o Anabledd mewn cymdeithas yng Nghymru, helpu pobl anabl i ddeall eu hawliau a’u mynnu, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu polisïau mwy cynhwysol. Mae’r gwaith hwn yn cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth i Gymru sy’n fwy cyfartal.
52. Byddaf yn parhau i sicrhau bod ein holl gyfarfodydd a gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gwbl hygyrch drwy gomisiynu dehonglwyr iaith arwyddion Prydain a chapsiynwyr, ymhlith mesurau eraill i sicrhau hygyrchedd llawn.
Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru
53. Bydd y gyllideb hon yn canolbwyntio ar y broses o roi ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ ar waith, ei fonitro a’i werthuso. Rydym yn cefnogi ymchwil a fydd yn ymdrin â’r bylchau mewn data mewn perthynas â bywydau LHDTC+. Bydd sicrhau bod ein cynllun yn cael ei werthuso’n gadarn mewn perthynas â’i nodau a’i amcanion yn allweddol i fesur effaith y cynllun ar ansawdd bywydau pobl LHDTC+ o bob oedran yng Nghymru. Bydd dull croestoriadol yn cael ei fabwysiadu er mwyn sicrhau bod pobl LHDTC+ yn ffynnu ym mhob agwedd ar eu bywydau, gan gynnwys addysg, chwaraeon, gwaith a bywyd cyhoeddus.
54. Byddaf yn parhau i roi cyllid i Stonewall Cymru hyrwyddo hawliau dynol pobl LHDTC+ ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn yn cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth i Gymru sy’n fwy cyfartal.
Cydlyniant Cymunedol
55. Mae’r dyraniadau a wneuthum yn y Gyllideb Ddrafft hon yn ei gwneud yn bosibl inni ychwanegu at ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol drwy gadw’r gronfa grantiau bach ar lawr gwlad a sefydlwyd gennym yn 2024-25 a chynyddu’r cyllid. Byddai cyfanswm o £1.6m yn cael ei ddyrannu i gyflawni’r Rhaglen ledled Cymru drwy’r wyth rhanbarth.
56. Rwyf hefyd wedi dyrannu £0.3m i barhau i gryfhau ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru i fynd i’r afael â chasineb ac annog dioddefwyr i roi gwybod am achosion. Bydd Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn cael dyraniad estynedig o £0.47m ar gyfer 2025-2027 gyda chyllideb gynyddol i ymdrin â phwysau chwyddiannol.
57. Rwyf hefyd wedi dyrannu £0.35m arall i’n cefnogi i goffáu digwyddiadau allweddol sy’n dangos dynoliaeth gyffredin (megis Diwrnod Cofio’r Holocost, Holodomor a Wythnos y Ffoaduriaid) i wrthsefyll casineb drwy ddulliau gweithredu arloesol, a chefnogi adferiad cymunedol sy’n meithrin cydberthnasau da.
58. Mae dyraniadau ehangach mewn perthynas â’r rhai â nodweddion gwarchodedig, fel y’i hadlewyrchir mewn rhannau eraill o’r papur briffio hwn, hefyd yn cefnogi ein gwaith ar gydlyniant cymunedol. Mae gwaith arall a brif ffrydiwyd a ariennir gan dimau yn Llywodraeth Cymru hefyd yn anelu at feithrin cymunedau cydlynus a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Mae’n dda gennyf nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol 2024-25; mae gennym bellach lif cadarn o brosiectau cymeradwy i sicrhau canlyniadau dros yr ychydig flynyddoedd ariannol nesaf.
59. Er mwyn gwella ansawdd safleoedd cyhoeddus i deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, darparwyd £3.44 miliwn ar gyfer Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn 2024-25. Bydd y cyllid hwn a ddyrannwyd i’r prosiectau hyn yn helpu awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion a nodwyd yn eu Hasesiadau o Lety Sipsiwn a Theithwyr, gan ddarparu safleoedd a lleiniau mewn amgylchedd diogel yn ogystal â gwella hygyrchedd, effeithlonrwydd ynni, cynhwysiant digidol a llesiant yn y gymuned i breswylwyr. Rydym wedi gwneud cyfanswm o 19 o ddyfarniadau gwerth £4.62m i gyd yn ystod y cyfnod o 2024-25 i 2026-27, i 10 awdurdod lleol. Mae rhai cynigion ar gyfer sawl blwyddyn er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ddiwallu eu hanghenion o ran llety.
60. Er mwyn ategu’r cyllid grant hwn, mae fy swyddogion wedi gwahodd awdurdodau lleol sydd â safle sy’n cael ei redeg gan yr awdurdod lleol i gyflwyno ceisiadau am gynigion cyfalaf bach. Bydd y cynllun hwn ar gyfer prosiectau bach y gellir eu cyflawni yn y flwyddyn ariannol hon, gyda therfyn o hyd at £50,000.
61. Disgwylir i awdurdodau lleol ddefnyddio’r cyllid cyfalaf sydd ar gael ar gyfer 2024-25 i ddiwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr fel y’u nodwyd gan asesiadau awdurdodau lleol o lety Sipsiwn a Theithwyr. Y flwyddyn hon, mae swyddogion wedi estyn y meini prawf ar gyfer cynigion i gynnwys caffael tir, a fydd yn helpu awdurdodau lleol i ddatblygu lleiniau newydd. Disgwylir i bob cais esbonio sut y bydd y datblygiad yn cyd-fynd â chanllawiau ‘Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’ Llywodraeth Cymru.
62. Erbyn mis Tachwedd 2024, rydym wedi gwneud 19 o ddyfarniadau gwerth cyfanswm o £1.50m, i 10 awdurdod lleol. Er mwyn ceisio defnyddio cyllideb 2024-25 yn llawn, mae swyddogion yn rhedeg cynllun grantiau cyfalaf bach sydd wedi’i anelu at safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sy’n cael eu rhedeg gan yr awdurdod lleol, gan wahodd cynigion ar gyfer prosiectau bach, gyda therfyn o hyd at £50,000. Mae cynigion gwerth £0.74m wrthi’n cael eu hasesu.
63. Bydd y gyllideb ar gyfer 2025-26 yn parhau ar yr un lefel â 2024-25 (£3.44m). Mae rhai o’r cynigion a gyflwynwyd yn 2024-25 wedi bod yn gynigion amlflwydd a hyd yma, rydym wedi neilltuo £2.49m yn 2025-26 a £623k yn 2026-27. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i neilltuo’r cyllidebau hyn yn llawn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Mae’n bleser gennyf ddyrannu £0.2m ychwanegol i gyllideb Glasbrintiau Cyfiawnder i Fenywod a Chyfiawnder Ieuenctid yn 2025-26.
64. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i ymdrin â rhai o’r problemau mwyaf anodd a chymhleth gyda’r system cyfiawnder ieuenctid, gan adeiladu ar yr hyn y mae’r Glasbrintiau Cyfiawnder i Fenywod a Chyfiawnder Ieuenctid wedi’i gyflawni eisoes. Bydd hefyd yn cefnogi gweithgarwch ymchwil i’n helpu i ddeall effaith y Glasbrintiau, gan adeiladu ar y gwaith asesu gwerthusadwyedd a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022.
65. Bydd y gyllideb hefyd yn parhau i gefnogi cyllid ar gyfer:
· Cynllun Cymru’n Un, gan roi cymorth sy’n ystyriol o drawma i fenywod a phobl ifanc sydd mewn cysylltiad â’r system gyfiawnder ledled Cymru er mwyn eu helpu i gael gafael ar gymorth a thrawsnewid eu bywydau. Mae hyn yn cynnwys cymorth un i un holistaidd sy’n ystyriol o rywedd i fenywod.
· Y gwasanaeth Ymweld â Mam, sy’n helpu plant yng Nghymru i ymweld â’u mamau sydd yn y carchar. Caiff ei gyflwyno drwy gynllun Cymru’n Un.
· Rôl Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig i fenywod o Gymru yn y carchar, sy’n cydnabod pa mor gyffredin ydyw bod menywod yn y carchar wedi dioddef ac wedi goroesi VAWDASV.
· Ein cyfraniad fel aelod at Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, sef y llais strategol sy’n hyrwyddo ac yn cysylltu pawb sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol yng Nghymru fel y gallant greu cymunedau mwy diogel.
· Adnoddau i barhau â gweithgarwch gwella ar gyfer y system cyfiawnder i fenywod a’r system cyfiawnder ieuenctid, a gyflawnir drwy’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru ac yn fewnol yn Llywodraeth Cymru.
· Cyfraniadau at waith Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru.
Canolfannau i Fenywod
66. Mae cynllun Cymru’n Un, y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu ac yn ei gomisiynu ar y cyd â phartneriaid cyfiawnder troseddol, yn cefnogi rhwydwaith o ganolfannau amhreswyl i fenywod ledled Cymru. Yn ogystal â darparu gwasanaethau’n uniongyrchol i fenywod drwy gydol eu taith drwy’r system gyfiawnder, mae’r canolfannau hyn yn rhoi cymorth o ran dillad, bwyd ac eitemau ymolchi i bawb sydd eu hangen.
67. Hefyd, ac fel y nodir uchod, bydd y gyllideb yn
parhau i gyllido adnoddau yn y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid,
Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen
â gwaith gwella ar gyfiawnder ieuenctid a chyfiawnder i
fenywod yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar y meysydd
lle y gallwn weithio gyda’n gilydd i gael yr effaith
ychwanegol fwyaf ar fywydau plant a menywod yng Nghymru. Rydym yn
datblygu cynlluniau ar y cyd â phartneriaid i nodi manylion
llawn y gwaith gwella hwn, a fydd yn adeiladu ar y gwaith presennol
a’r hyn a gyflawnwyd o dan y Glasbrintiau, gan gynnwys parhau
i weithio ar Ganolfan Breswyl beilot i Fenywod ar y cyd â
Llywodraeth y DU.
Mae’n bleser gennyf ddyrannu £1.3m o refeniw ychwanegol a £0.9m o gyllid cyfalaf i gyllideb Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2025-26.Bydd hyn yn helpu i wella’r cymorth i ddioddefwyr trais rhywiol a domestig difrifol a chynyddu lefelau’r cyllid sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau ymyrryd yn gynnar ac atal.
68. Drwy’r gyllideb hon, rwyf wedi gwneud dyraniad ychwanegol o £0.5k i helpu i gyflawni Amcan 6 Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022-26 i roi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n ymatebol ledled Cymru. Caiff y cyllid hwn ei ddyrannu drwy broses bresennol Cyllid Grant Rhanbarthol er mwyn helpu i roi cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr ac ymdrin â’r pwysau a wynebwyd yn ystod y flwyddyn. Bydd y dyraniad ychwanegol hwn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r rhanbarthau, a all gynnwys cymorth ariannol ychwanegol i ranbarthol gynnal lefelau presennol y Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol a’r Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig a ddarperir. Bydd y cynnydd hwn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r rhanbarthau drwy ein trefniadau cyllid grant craidd i ategu’r trefniadau presennol ar gyfer Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol. Bydd hefyd yn galluogi gwasanaethau hollbwysig sydd â rhestrau aros helaeth o oroeswyr sy’n aros am gymorth i gael gafael ar y cymorth hwnnw lawer yn gynt ac mewn ffordd sydd wedi’i theilwra’n well at yr unigolyn na’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i’r rhanbarthau fod yn fwy arloesol wrth ymdrin â VAWDASV, gan gynnwys comisiynu ffyrdd newydd o weithio drwy gynlluniau peilot a hyrwyddo mentrau newydd, er enghraifft yn eu hymatebion i stelcian, neu ymyriadau risg isel o niwed.
69. Rwyf hefyd wedi gwneud dyraniad ychwanegol o £0.7k i roi rhagor o gymorth i gyflawni Amcan 4 Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022-2026 i roi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal. Bydd y cyllid hwn yn cynnwys treialu llinell gymorth i ymgysylltu â bechgyn a dynion, gan adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o’r argymhellion a ddeilliodd o ymgyrch lwyddiannus ‘Iawn’. Mae ymgyrch ‘Iawn’, sydd wedi gweithio gyda dynion a bechgyn ledled Cymru yn ystod y 18 mis diwethaf wedi nodi bwlch yn y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y dynion a’r bechgyn hynny sydd am geisio cymorth mewn perthynas â’u hanawsterau gyda chydberthnasau. Rydym wedi gweld ymateb enfawr ar y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn i ddynion fod yn rhan o’r ateb i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, ond mae tipyn o ffordd i fynd o ran hyn. Mae un o argymhellion y gwerthusiad a gynhaliwyd ym mis Medi 2024 yn dangos bod angen gwasanaeth cymorth ledled Cymru, a allai fod ar ffurf llinell gymorth dros y ffôn, neu wasanaeth cymorth ‘sgwrsfot’ ar-lein a fydd yn fodd i gynnig cyngor a chymorth 24-7 i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Bydd y swm ychwanegol hwn o £0.7 miliwn yn ei gwneud yn bosibl i gynllun o’r fath gael ei ddatblygu i’w dreialu a’i werthuso.
70. Bydd y swm ychwanegol hwn hefyd yn cefnogi gwaith ar stelcian mewn ymateb i ganfyddiadau’r uwch-gŵyn a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i lenwi’r bylchau a geir mewn data ar VAWDASV yng Nghymru. Bydd hyn yn ein galluogi i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Plismona yng Nghymru i ddatblygu gwell data a gwybodaeth gadarn mewn perthynas â VAWDASV drwy’r sector cyfan, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol, iechyd, addysg, plismona a llawer mwy. Bydd yn helpu i ddarparu gwell tystiolaeth ar gyfer asesiadau o anghenion rhanbarthol a strategaethau o dan Ddeddf VAWDASV; Drwy hyn, bydd modd i Gymru fonitro a mesur faint o VAWDASV a geir yng Nghymru yn effeithiol, gan gynnwys dangosyddion cenedlaethol a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg a phryderon dybryd y mae angen ymateb brys iddynt.
71. Yn ogystal â’r dyraniadau refeniw hyn, rwyf hefyd wedi cynyddu cynllun Grantiau Cyfalaf VAWDASV £0.9m yn 2025-26. Mae’r cynllun grant hwn yn rhoi grantiau bach a mawr er mwyn helpu i gyflawni Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022-26. Mae hyn yn cynnwys cyllido eiddo, gwaith adnewyddu, gwella gwasanaethau, prosiectau diogelwch dioddefwyr a gwella ac uwchraddio lleoedd a chyfarpar i ddefnyddwyr gwasanaethau. Bydd y dyraniad ychwanegol yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol ar gyfer prosiectau lle mae cost eiddo wedi cynyddu, gan ei gwneud yn bosibl i wasanaethau a sefydliadau VAWDASV ddatblygu a darparu gwell cyfleusterau i oroeswyr, a diwallu anghenion pobl anabl a phobl niwrowahanol.
Fel rhan o’r Gyllideb Ddrafft hon, bu’n bleser gennyf wneud dyraniadau refeniw ychwanegol o £2.7m i gyllideb Gwasanaethau Cynghori er mwyn cynyddu’r cyllid sydd ar gael i’r Gronfa Gynghori Sengl a chefnogi gwaith ar symleiddio budd-daliadau yng Nghymru a ddisgrifir uchod hefyd.
Cyllideb gwasanaethau cynghori a chymorth
72. Drwy’r Gronfa Gynghori Sengl, rydym wedi rhoi fframwaith o wasanaethau gwybodaeth a chyngor ar les cymdeithasol ar waith ledled Cymru ac mae’r rhain yn hygyrch i bobl o’n cymunedau mwyaf difreintiedig a’n cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd 77% o’r bobl a ddefnyddiodd wasanaeth y Gronfa Gynghori Sengl yn dod o un o grwpiau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl hŷn, gofalwyr pobl hŷn a theuluoedd incwm isel â phlant.
73. Mae gwneud y gorau o incwm yn weithgarwch allweddol a gyflawnir drwy’r Gronfa Gynghori Sengl a gwyddom fod y gwasanaethau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rhwng mis Ionawr 2020 a mis Medi 2024, helpodd y gwasanaethau bobl i hawlio £160 miliwn o incwm ychwanegol ac i ddileu dyledion gwerth cyfanswm o £38.5 miliwn.
74. Rwyf wedi diogelu’r gyllideb refeniw hon sy’n werth £12m yn 2025-26 ac ochr yn ochr â’r £1.9m ychwanegol o’r gyfran o’r Ardoll Ddyled, bydd hyn yn ein galluogi i barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gwybodaeth a chyngor. Mae ein cynnig o ddyfarniadau cyllid grant tair blynedd i ddarparwyr er mwyn iddynt ddarparu gwasanaethau’r Gronfa Gynghori Sengl o fis Ebrill 2025 yn dangos yn glir ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor.
Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
75. Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth bron £3 miliwn o gyllid i helpu dinasyddion yr UE, yng Nghymru, gyda cheisiadau i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE er mwyn sicrhau eu bod yn cadw eu hawl gyfreithiol i aros yng Nghymru ar ôl Brexit a pharhau i gael y gwasanaethau a’r hawliau y mae’r breswyliaeth honno yn eu rhoi iddynt. Ers 2019, mae’r cyllid hwn wedi ategu’r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth y DU i gefnogi ymdrechion ar y cyd yn y maes hwn.
76. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod yn rhaid i wasanaethau cymorth angenrheidiol i ddinasyddion yr UE sy’n gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE barhau, ac yn ystod yr wythnosau sydd i ddod, byddwn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid, aelodau o Fforwm Dinasyddion yr UE a Llywodraeth y DU i ystyried yr hyn y bydd y gwasanaethau hynny yn ei gynnig dros y flwyddyn ariannol nesaf ac mewn blynyddoedd dilynol. Rydym wedi cyllidebu £150k ar gyfer 2025-26.
Bydd £2m o refeniw ychwanegol a £2.9m o gyfalaf yn cael eu darparu i gefnogi gweithgarwch yn y trydydd sector ledled Cymru, gan gydnabod a gwerthfawrogi’r rôl y mae sefydliadau a gwirfoddolwyr yn y trydydd sector yn ei chwarae i helpu ein cymunedau i ffynnu a gwella llesiant Cymru.
77. Er mwyn cydnabod cymorth gwerthfawr ein partneriaid yn y trydydd sector a chydnabod eu rôl o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi, a chefnogi’r rhai â nodweddion gwarchodedig sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu, rwyf wedi darparu cynnydd o 3% ar gyfer pob un o’n grantiau i’r trydydd sector yn 2025-26 ar gost o tua £1m o refeniw a rennir rhwng amrywiol gyllidebau ym Mhrif Grŵp Gwariant Cyfiawnder Cymdeithasol er mwyn ceisio lleihau’r pwysau ar eu cyllidebau.
78. Er mwyn cydnabod y rôl bwysig y mae seilwaith a gweithgarwch gwirfoddoli y trydydd sector yn ei chwarae i gefnogi cymunedau yng Nghymru a chyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, rwyf hefyd yn darparu £1m o refeniw pellach ar gyfer Grant Gwirfoddoli Cymru er mwyn hyrwyddo a gwella gweithgarwch gwirfoddoli yng Nghymru a chynyddu’r cyllid ar gyfer Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
79. Fel rhan o’r cymorth wedi’i dargedu hwn ar gyfer y Trydydd Sector, rwyf hefyd wedi dyrannu £2.9m o gyfalaf ychwanegol i’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, gan gynyddu’r gyllideb llinell sylfaen i £10m. Drwy hyn, bydd mwy o brosiectau sy’n helpu i brynu a gwella cyfleusterau cymunedol hanfodol ledled Cymru. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gynyddu cyfleoedd a datblygu cymunedau cydnerth lle mae pobl yn cael eu hannog a’u grymuso, ac mae prosiectau sy’n gallu dangos ymwneud cymunedol a budd i’r gymuned, cydweithio, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn cael eu cefnogi. Er mwyn adeiladu ar lwyddiant y Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol, rwyf wedi dyrannu £1.5m ychwanegol o gyfalaf Benthyciadau Asedau Cymunedol yn 2025-26. Gall y cyllid hwn i rai sefydliadau gael ei ddefnyddio i ategu ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol sy’n gweld galw cynyddol.
Rwy’n ymrwymedig i gefnogi mesurau ataliol cymaint â phosibl.
Dull gwario ataliol
80. Rwy’n cydnabod bod angen gwneud dewisiadau anodd o hyd. Mae’r pwysau parhaus ar gyllid cyhoeddus ac ar lefel y cyllid sydd ar gael o dan y Prif Grŵp Gwariant hwn yn fwy penodol, yn golygu na allwn dwyllo ein hunain ynglŷn â’r heriau a wynebwn.
81. Mae’r cynigion cyllidebol hyn yn adlewyrchu fy ymrwymiad parhaus i ddiogelu a blaenoriaethu buddsoddiad sy’n cefnogi mesurau ataliol cymaint â phosibl. Mae’r penderfyniadau gwariant nid yn unig wedi ystyried y ffordd orau o ateb y galw presennol am wasanaethau ond maent hefyd wedi canolbwyntio ar gefnogi ymyriadau a all atal problemau rhag codi yn y dyfodol. Mae’r dull ataliol hwn yn rhan bwysig o’n gwaith cynllunio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn awr ac yn y dyfodol.
82. O ddechrau fy ngwaith i baratoi ar gyfer y Gyllideb, rwyf wedi canolbwyntio ar y ffordd orau o ddiwallu anghenion cynyddol mewn meysydd gwasanaeth allweddol o dan y Prif Grŵp Gwariant yn wyneb cyllideb heriol arall. Dros flynyddoedd dilynol, mae blaenoriaethu gwariant ataliol wedi bod yn ffordd o osgoi ymyriadau mwy costus rywbryd yn y dyfodol a gwella ansawdd bywydau pobl yn yr hirdymor.
Cydbwyso gwariant ataliol a gwariant i ddiwallu anghenion uniongyrchol
83. Mae cymorth i’r rhai sy’n wynebu tlodi bwyd yng Nghymru, sef bron £4.5m (refeniw a chyfalaf) yn hwyluso sefydliadau bwyd cymunedol i brynu cyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd da a nwyddau hanfodol, sy’n rhoi hwb i’w gallu i ddiwallu anghenion eu cwsmeriaid. Fodd bynnag, mae’r dyraniad cyllidebol hefyd yn helpu Partneriaethau Bwyd Lleol a sefydliadau cymunedol i gyflawni prosiectau sy’n ymwneud â bwyd er mwyn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd – gan gydbwyso’r angen i roi cymorth uniongyrchol â ffocws ar gymryd camau gweithredu ataliol yn y tymor hwy.
84. Os caiff problemau lles cymdeithasol eu gadael heb eu datrys, gallant beri i bobl fod mewn tlodi, eu rhwystro rhag cael cyflogaeth, arwain at ddigartrefedd a chael effaith negyddol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Felly, mae’n bwysig bod pobl yn cael y cyngor ar les cymdeithasol sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl. Mae’r Gronfa Gynghori Sengl wedi bod yn effeithiol o ran cyrraedd pobl yn gynt – roedd mwy na hanner y bobl a oedd wedi defnyddio’r gwasanaethau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf wedi gwneud hynny cyn eu bod mewn argyfwng.
85. Os bydd rhywun yn wynebu argyfwng, mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn parhau i gynnig ffordd hollbwysig o roi cymorth i’r rhai nad oes unrhyw fath o gymorth arall ar gael iddynt – ac rydym wedi dyrannu £1m ychwanegol a fydd yn ein galluogi i barhau i roi cymorth brys i’r rhai â’r angen mwyaf.
86. Mae Cynllun Cymru’n Un, gyda chefnogaeth y gyllideb Cyfiawnder i Fenywod a Chyfiawnder Ieuenctid yn cael ei ariannu a’i gomisiynu ar y cyd â phartneriaid ym maes cyfiawnder ieuenctid gyda’r nod o atal menywod ac oedolion ifanc rhag dod i gysylltiad â’r system gyfiawnder, yn ogystal â rhoi cymorth i fenywod ac oedolion ifanc sydd mewn cysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid i’w hatal rhag aildroseddu. Nod y cynllun yw mynd i’r afael â’r ffactorau sylfaenol sy’n ysgogi ymddygiad troseddol, gan rymuso pobl i fyw bywydau heb drosedd yn llwyddiannus ac atal y niwed a achosir i bobl a chymunedau drwy ymddygiad troseddol.
87. Mae’r broses o flaenoriaethu gweithgarwch
ymyrryd yn gynnar ac atal wedi’i hymgorffori yn ein
Strategaeth Genedlaethol ar VAWDASV a ffrydiau gwaith y
Glasbrintiau. Mae’r strategaeth yn ymrwymo i gadw ffocws ar
gymorth a gwasanaethau i oroeswyr ac, ar yr un pryd, newid o ymdrin
â symptomau i achosion drwy ddull iechyd y cyhoedd. Gwnaethom
gefnogi casgliadau adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024 ar Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan:
dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail
rhywedd fod angen dull
iechyd y cyhoedd er mwyn mynd i’r afael ag achosion yn
ogystal ag effeithiau trais ar sail rhywedd. Ymhlith y camau
gweithredu ataliol penodol fel rhan o’r ffrydiau gwaith mae
ein hymgyrch ‘Iawn’. Fel rhan o’r ymgyrch,
anogwyd dynion a bechgyn rhwng 18 a 34 oed yng Nghymru i chwarae
rhan i gefnogi gweithgarwch ymyrryd yn gynnar ac atal trais ymhlith
menywod a merched. Fel y nodir yn adran 4, rwyf hefyd wedi dyrannu
£0.7m ychwanegol i roi rhagor o gymorth i gyflawni
Amcan 4 Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022-2026 er mwyn sicrhau
bod ymyrryd yn gynnar ac atal yn flaenoriaeth sy’n cynnwys
adeiladu ar ymgyrch lwyddiannus ‘Iawn’.
Fis Mawrth nesaf, byddwn yn nodi deng mlynedd ers pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a byddwn yn gwneud hynny drwy gydol 2025-26.Mae’n rhoi cyfle i fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y deng mlynedd diwethaf ac i ymrwymo i’r cam nesaf o’r gwaith er mwyn adeiladu ar y cynnydd a wnaed gennym.
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
88. Cyn i gyllideb Llywodraeth Cymru gael ei chyhoeddi, mae’n ofynnol i’r Comisiynydd gyflwyno amcangyfrif statudol o’i ofynion cyllidol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae cais y Comisiynydd yn seiliedig ar gyllideb llinell sylfaen 2024-25, ynghyd â swm ychwanegol o £17,500 i gydnabod effaith y dyfarniad cyflog gwell na’r disgwyl ar gyfer 2024-25. Bydd cynnydd o 3% yn y llinell sylfaen ddiwygiedig hon er mwyn caniatáu ar gyfer chwyddiant a dyfarniadau cyflog yn 2025-26 a fydd yn arwain at gyfanswm o £1,676,325 ar gyfer 2025-26. Mae’r gyllideb hon yn bodloni’r cais hwn, sy’n sicrhau y bydd y Comisiynydd yn gallu cyflawni ei weithgarwch arfaethedig yn y flwyddyn sydd i ddod.
Sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi dylanwadu ar ddyraniadau cyllidebol
89. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i chwilio am ffyrdd gwell o ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn y broses gyllidebu. Ceir rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn yng Ngham Gweithredu 2.10 yn Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: Diweddariad cynnydd y cynllun dysgu a gwella parhaus a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 a Chynllun Gwella’r Gyllideb b2024-2025.
90. Mae Cynllun Gwella’r Gyllideb yn nodi uchelgeisiau yn y byrdymor a’r tymor canolig dros y pum mlynedd nesaf, i wella’r broses gyllidebu drwy ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio er mwyn sbarduno gwelliant parhaus. Rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi’r Cynllun bob blwyddyn, er mwyn cydnabod natur barhaus gweithgarwch i sbarduno a chynnal newid yn y tymor hwy. Ein nod cyffredinol yw dangos sut mae’r Ddeddf wedi dylanwadu ar ddyraniadau cyllidebol.
91. Rydym yn parhau i ddatblygu adroddiad y Prif Economegydd er mwyn darparu adroddiad llawnach ar ddatblygiadau a rhagolygon economaidd yng Nghymru ac ategu Adroddiad Llesiant Cymru. Rydym wedi ehangu’r materion a’r rhagolygon cyllidol a gwmpesir yn adroddiad y Prif Economegydd ac rydym yn parhau i gynghori ar y ffordd y caiff egwyddorion y Llyfr Gwyrdd eu cymhwyso yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
92. Er mwyn ein cefnogi yn hyn o beth, rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb sy’n cynghori Llywodraeth Cymru o safbwynt cydraddoldebau a chynhwysiant. Nod y grŵp hwn yw ymgysylltu a sbarduno gwelliannau i’n prosesau cyllidebu a threthu a fydd, yn eu tro, yn helpu i gyflawni Cynllun Gwella’r Gyllideb. Mae swyddogion Trysorlys Cymru wedi gweithio gyda swyddogion yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ystyried sut y gallwn adlewyrchu’r pum ffordd o weithio yn gliriach fel rhan ganolog o’n prosesau gwneud penderfyniadau yn y dyfodol, a byddwn yn ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd yn adroddiad Llesiant Cymru 2024 wrth ddatblygu’r Gyllideb Ddrafft hon.
93. Mae pob un o Ysgrifenyddion y Cabinet yn ymrwymedig i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) er mwyn gwella’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau am lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Ein nod yw ymgorffori’r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac mae ein cynlluniau gwariant yn anelu at sicrhau cydbwysedd rhwng blaenoriaethau byrdymor a hirdymor.
94. Rydym yn cydnabod yr angen i gydweithio â’n partneriaid a defnyddio adnoddau ein gilydd yn effeithiol i gynllunio ar gyfer y dewisiadau anodd sydd i ddod.
95. Mae ein gwaith ar VAWDASV yn enghraifft glir o’r ffordd y mae Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cefnogi ac yn galluogi dull mwy cynaliadwy o ymateb i heriau cenedliadol. Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy’r CU y mae Nodau Llesiant Cymru yn cyfrannu atynt, yn cynnwys nod a tharged penodol i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. Mae ein gwaith i fynd i’r afael â VAWDASV yng Nghymru, sy’n seiliedig ar y Ddeddf VAWDASV, yn parhau i ddangos yn glir y pum ffordd o weithio o dan yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Yn y gyllideb hon, rydym yn cynyddu’r cyllid ar gyfer gweithgarwch ymyrryd yn gynnar ac atal; yn parhau i gefnogi cydweithio drwy’r Glasbrint, gan gynnwys panel goroeswyr sy’n cynnwys goroeswyr mewn prosesau gwneud penderfyniadau; integreiddio gwaith awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol drwy eu priod ddyletswyddau o dan y Ddeddf VAWDASV; a chynyddu cyllid i ddatblygu data gwell, gan gynnwys tueddiadau yn y dyfodol er mwyn cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau gwell i fynd i’r afael â VAWDASV ledled Cymru.
96. Yn fwy cyffredinol, mae ein holl waith ar gydraddoldeb a mynd i’r afael â thlodi yn ymgorffori’r pum ffordd o weithio ac yn mabwysiadu dull hirdymor ac ataliol o ymdrin â’r hyn sydd yn aml yn annhegwch sy’n pontio’r cenedlaethau. Er enghraifft, mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cynnwys nod hirdymor o greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, ac adlewyrchir gweithgarwch ataliol mewn camau gweithredu megis dull DARPL ym maes addysg a gofal plant. Datblygwyd y cynllun drwy gynnwys a chydgynhyrchu, ac roedd profiadau bywyd yn ganolog i’r broses o’i ddatblygu a’i gyflwyno. Mabwysiadwyd y dull cydgynhyrchu hwn yn y Tasglu Hawliau Pobl Anabl ac wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu anabledd arfaethedig. Dull trawslywodraethol ac integredig sy’n sail i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a hefyd y Cynllun Gweithredu LHDTC+, lle mae cydweithio drwy’r sector cyhoeddus cyfan yn rhan annatod o’r broses o’u rhoi ar waith.
97. Rwy’n cydnabod pwysigrwydd asedau cymunedol a’r rôl y maent yn ei chwarae i sicrhau bod gennym gymunedau diogel, cysylltiedig a chydnerth. Dyma pam rydym ni, gan weithio mewn partneriaeth â’r trydydd sector, wedi datblygu’r Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol, sy’n cynnig benthyciadau dros gyfnod o hyd at 25 mlynedd i sefydliadau yn y trydydd sector sy’n ceisio dod yn berchen ar asedau cymunedol megis tir neu adeiladau. Wrth wneud hynny, rydym yn helpu i ddiogelu’r seilwaith cymunedol sy’n chwarae rôl hollbwysig wrth ymateb i drychinebau naturiol, megis y llifogydd diweddar, ond hefyd sicrhau y bydd y rhain yma i genedlaethau’r dyfodol.
[1]Mae dyraniad o £0.9m wedi cael ei wneud, ond mae £0.7m hefyd wedi cael ei drosglwyddo allan o’r Llinell Wariant yn y Gyllideb felly bydd y cynnydd yn ymddangos fel £0.2m yn nhablau’r Llinell Wariant yn y Gyllideb.